SL(5)198 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn cael eu gwneud o dan adrannau 22 a 42 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) ac maent yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (S.O. 2009/470) (“Rheoliadau 2009”).

Mae Rheoliadau 2009 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy'n amodol ar incwm yng Nghymru a Lloegr. Bydd y Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i'r trothwyon ad-dalu a chyfradd llog ar gyfer benthycwyr sydd â benthyciadau israddedigion a gymerwyd ar ôl 2012 ('benthyciadau ôl-2012'). Bydd y newidiadau'n berthnasol i'r rheini sydd eisoes wedi cymryd benthyciad a'r rhai a fydd yn cymryd benthyciad o'r fath ac yn cael eu crynhoi fel a ganlyn:

1.     Cyfradd llog ar fenthyciadau ôl-2012

 

a.     Bydd y trothwy cyfradd llog is yn cynyddu o £21,000 i £25,000 a bydd y trothwy cyfradd llog uwch yn cynyddu o £41,000 i £45,000;

 

b.    Bydd y Rheoliadau hefyd yn darparu bod y trothwyon hyn yn cael eu haddasu'n flynyddol yn unol ag enillion cyfartalog ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2020 a'r blynyddoedd wedi hynny. Bydd y mesur o enillion cyfartalog yn cael ei gymryd o set ddata EARN01 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar Enillion Wythnosol.

 

c.     Gwneir darpariaeth hefyd i ddiweddaru'r bandiau trothwy llog is ac uwch ar gyfer benthycwyr tramor yn unol â benthycwyr sy'n byw yn y DU.

 

2.     Trothwyon ad-dalu

 

a.     Bydd y trothwy ad-dalu'n cynyddu o £21,000 i £25,000. Bydd y Rheoliadau hefyd yn darparu bod y trothwy hwn yn cael ei addasu'n flynyddol yn unol ag enillion cyfartalog ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2020 a'r blynyddoedd wedi hynny. Yn achos trothwyon cyfradd llog, bydd y mesur o enillion cyfartalog yn cael ei gymryd o set ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

 

b.    Bydd y Rheoliadau'n gwneud newidiadau tebyg i fenthycwyr tramor sy'n gwneud taliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yn unol â benthycwyr sy'n byw yn y DU.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.     Mae hwn yn offeryn statudol cyfansawdd. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'r canlynol:

  “Given the composite nature of the 2009 Regulations and that no routine Parliamentary processes exist by which to lay bilingual regulations before Parliament, these Regulations will be made in English only”.

[Rheol Sefydlog 21.2 (ix) - nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.]

Craffu ar y rhinweddau

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.     Mae rheoliad 6 (mewnosod Rheoliad newydd 29(8A) yn Rheoliadau 2009) yn darparu bod y trothwy ad-dalu mewn perthynas â benthyciadau gradd meistr ôl-raddedig yn parhau ar £21,000, er y bydd y trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau ôl-2012 yn cynyddu o £21,000 i £25,000.

[Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Mawrth 2018